Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2016
Amser: 09.02 -
11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3382
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 69KB) Gweld fel HTML (68KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Nid oedd ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r ymateb a gafwyd gan y sefydliadau ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd iddynt yn adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:
· Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar y materion yn ymwneud â threfniadau yswiriant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dull Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer codi ffi am ddigwyddiadau a’i barn am drefniadau’r ddau sefydliad o ran diswyddo.
· Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad esbonio’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i wneud y deunydd a gyhoeddir ar ei wefan yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl â gofynion penodol.
· Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn nhymor yr hydref 2016 ac ystyried yn benodol a yw’r ffordd y cyflwynir y cyfrifon wedi gwella ac a ydynt yn cynnwys linc i Adroddiad Rheoli Grantiau Blynyddol Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd hefyd efallai y bydd y pwyllgor dilynol am edrych yn ehangach ar ddull Llywodraeth Cymru o leihau ei defnydd o ynni.
· Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref 2016.
4.1 Cytunwyd ar y cynnig.
5.1 Gwnaeth yr Aelodaunodi a chroesawu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC.
5.2 Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi diolch iddi am wahodd y Pwyllgor i drafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ac i roi gwybod hefyd y bydd adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn cynnwys argymhelliad y dylai’r pwyllgor dilynol ystyried cynnwys cyfrifon y BBC fel rhan o’i waith blynyddol yn craffu ar gyfrifon.
6.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad, Sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror.